Os nad yw rhif cofrestru wedi bod ar gerbyd, mae angen ichi adnewyddu Tystysgrif Hawl V750W sydd ar fin dod i ben
Dim ond y Prynwr (a enwir ar y V750W) sy'n gallu gwneud ceisiadau i adnewyddu a'r cynharaf y gallwch wneud cais yw 28 diwrnod (4 wythnos) cyn y dyddiad dod i ben.
Byddwch yn cael nodyn atgoffa os nad ydych yn defnyddio'r rhif cofrestru personol ac mae eich hawl i'w ddefnyddio ar fin dod i ben. Cyfrifoldeb y Prynwr yw sicrhau bod cofnodion DVLA yn cael eu diweddaru gyda'r manylion cyfeiriad cywir.
Mae'r V750W yn ddilys am 10 mlynedd. Gellir ei adnewyddu am 10 mlynedd arall ac nid oes ffi i wneud cais.
Rhaid i DVLA dderbyn eich cais ar neu cyn y dyddiad dod i ben, neu bydd yr hawliau i'r rhif cofrestru cerbyd personol yn cael eu colli.Ar ôl derbyn eich V750W wedi'i hadnewyddu, rhaid ichi ddinistro'r holl Dystysgrifau Hawl a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd nad ydynt bellach yn ddilys ac na ellir eu defnyddio ar-lein neu i hysbysu DVLA am unrhyw newid.
Sut i wneud cais
Adnewyddu ar-lein:Y ffordd gyflymaf a hawsaf i adnewyddu eich hawl yw drwy eich cyfrif ar-lein yma.
Os oes eisoes gennych gyfrif, mewngofnodwch gyda'ch ID Defnyddiwr a dewis yr opsiwn i adnewyddu hawliau. Gallwch ddod o hyd i'ch ID Defnyddiwr yn yr e-bost cadarnhau a anfonwyd atoch gennym pan wnaethoch sefydlu eich cyfrif ar-lein.
Os prynwyd y rhif cofrestru o ocsiwn DVLA a'i fod yn parhau ar V750W, crëwch gyfrif newydd gan ddefnyddo'r ddolen uchod, yna ychwanegwch y rhif cofrestru at eich cyfrif gan ddefnyddio'r rhif tystysgrif V750W. Bydd angen ichi ddewis yr opsiwn 'gweld eich hawliau sy'n dod i ben', a fydd dim ond yn ymddangos pan fydd gennych rif cofrestru sydd i fod i gael adnewyddu.
Ar ôl iddo gael ei brosesu, dylech dderbyn V750W newydd o fewn 2 wythnos.
Os nad yw'r V750W ar gael, bydd angen ichi adnewyddu drwy'r post.
Adnewyddu drwy'r post:Gellir gwneud ceisiadau i adnewyddu drwy gwblhau adran adnewyddu y Dystysgrif Hawl V750W. Y cynharaf y gallwch wneud cais yw 28 diwrnod (4 wythnos) cyn y dyddiad dod i ben.
Os nad yw'r V750W ar gael, darparwch gais ysgrifenedig i adnewyddu'r hawl ynghyd ag esboniad pam nad oes gennych y dystysgrif.
Rhaid anfon ceisiadau drwy'r post i:
Tîm Arbenigol PR
DVLA
Abertawe
SA99
Efallai y byddwch yn dymuno ystyried cael prawf postio wrth wneud cais. Ar ôl iddo gael ei brosesu, dylech dderbyn V750W newydd o fewn 3 i 4 wythnos.
Os yw'r V750W eisoes wedi dod i benOs oes gennych Dystysgrif Hawl V750W sydd wedi dod i ben, ni fyddwch yn gallu adnewyddu gan y bydd yr hawliau i'r rhif cofrestru wedi cael eu colli. Nid yw'r gyfraith yn caniatáu i DVLA adnewyddu unrhyw hawl sydd wedi dod i be.
Ni fyddwch yn gallu ail-brynu'r rhif cofrestru ac nid oes hawl i apelio.
Os yw'r rhif cofrestru erioed wedi'i aseinio i gerbyd, gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth sy'n ymwneud ag adnewyddu tystysgrifau V778W yma.