Ynghylch Rhifau Cofrestru Personol DVLA
Yn Rhifau Cofrestru Personol DVLA mae gennym filiynau o rifau cofrestru unigol ar gael ichi eu prynu ar-lein neu o'n hocsiynau.
Prynu Ar-lein
Drwy ddefnyddio ein chwiliad, gallwch gael mynediad at dros 50 miliwn o rifau cofrestru mewn ychydig eiliadau. Mae prisiau’n dechrau o gyn lleied â £250 sy'n cynnwys TAW a'r ffi aseinio o £80. Mae hynny'n golygu nad oes dim byd arall i'w dalu heblaw am y costau o wneud y platiau rhif - DIM COSTAU CUDD!
Ar ôl ichi ddod o hyd i'ch cofrestriad perffaith, cliciwch ar y botwm PRYNU NAWR i'w brynu ar-lein.
Rhif TAW Cwmni: GD108
Rhoi cynnig mewn Ocsiwn DVLA
Mae DVLA yn cynnal sawl ocsiwn pob blwyddyn, yn cynnwys tua 2,500 o rifau cofrestru ym mhob ocsiwn. Mae dau fath o ocsiwn a elwir yn Ocsiynau Lleoliad Byw ac Ocsiynau Ar-lein Wedi’u Hamseru.
Cynhelir ocsiynau Lleoliad Byw 3 gwaith y flwyddyn mewn lleoliadau sydd wedi'u dewis yn benodol ledled y DU.
Cynhelir ocsiynau Ar-lein Wedi’u Hamseru 6 gwaith y flwyddyn gyda’r holl gynigion yn cael eu cynnal ar-lein. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am sut mae ein hocsiynau’n gweithio a sut i gofrestru fel cynigydd yn www.dvlaauction.co.uk.
Mae ein hocsiynau yn cynnwys rhifau cofrestru unigryw diddyddiad, rhai cyfredol a rhai o'r steil hŷn gyda phrisiau’n dechrau o ddim ond £70.
Rydym yn gwneud profiad yr ocsiwn Lleoliad Byw mor bleserus â phosibl. Mae gwneud cynnig yn bersonol yn parhau i fod y ffordd fwyaf poblogaidd o wneud cynnig. Fodd bynnag, os na allwch fynd i’r ocsiwn, rydym yn cynnig yr opsiwn o wneud cynnig am ddim dros y ffôn a'r rhyngrwyd neu gallwch gyflwyno cynnig absennol. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am hyn yn www.dvlaauction.co.uk.