Help
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio i helpu i ateb unrhyw gwestiynau.
-
Rwy'n cael trafferth cael mynediad i'm cyfrif, sut allaf fewngofnodi?
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, ar y dudalen mewngofnodi cliciwch 'Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair'. Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfeiriad e-bost, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch i fewngofnodi. Nodwch fod eich cyfrinair yn cynnwys priflythrennau a llythrennau bach.
Os nad ydych yn gwybod eich ID defnyddiwr, neu nid oes gennych fynediad bellach i'r cyfeiriad e-bost sydd wedi'i gysylltu â'ch cyfrif, cysylltwch â ni yma fel y gallwn wirio eich manylion.
-
Pa arddull o rifau cofrestru personol rydych chi'n eu gwerthu?
Mae yna bedwar gwahanol arddull:
Arddull bresennol
Mae'r rhain wedi cael eu cyhoeddi i gerbydau newydd ers mis Medi 2001. Yn cynnwys dwy lythyren, wedyn dau rif i nodi oedran y cerbyd a thair llythyren ar y diwedd. Er enghraifft:
Mae DVLA yn rhyddhau dros saith mil o gyfuniadau newydd fel hyn pob chwe mis. Gellir prynu'r rhan fwyaf o'r cofrestriadau presennol am brisiau penodol trwy'r wefan hon, er y gwerthir y cofrestriadau mwyaf poblogaidd mewn Ocsiynau'r DVLA.
Ni all cofrestriadau arddull bresennol gynnwys 'I' neu 'Q' ac ni all gynnwys 'Z' o fewn y ddwy lythyren gyntaf.
Rhagddodiad
Cyhoeddwyd y rhain i gerbydau newydd rhwng Awst 1983 ac Awst 2001. Yn cynnwys un llythyren i nodi oedran y cerbyd ar y dechrau, wedyn un, dau neu dri rhif a thair llythyren ar y diwedd. Er enghraifft:
Gellir prynu'r rhan fwyaf o'r cofrestriadau presennol am brisiau sefydlog trwy'n gwefan er y gwerthir rhai o'r cofrestriadau mwyaf poblogaidd mewn Ocsiynau DVLA.
Ni all cofrestriadau Arddull Rhagddodiad gynnwys 'I', 'Z' neu 'Q' ac ni all gynnwys 'O' neu 'U' fel y llythyren gyntaf.
Ôl-ddodiad
Cyhoeddwyd y rhain i gerbydau newydd rhwng Chwefror 1963 a Gorffennaf 1983. Yn cynnwys tair llythyren, wedyn un, dau neu dri rhif, ac un llythyren ar y diwedd i nodi oedran y cerbyd. Er enghraifft:
Dim ond mewn Ocsiynau'r DVLA y gwerthir cofrestriadau arddull ôl-ddodiad.
Ni all cofrestriadau Arddull Ôl-ddodiad gynnwys 'I', 'Z' neu 'Q' ac ni all gynnwys 'O' neu 'U' fel y llythyren gyntaf.
Heb ddyddiad
Ar dir mawr Prydain Fawr, dyma'r math a gyhoeddwyd i gerbydau newydd cyn Chwefror 1963.
Nid yw rhifau cofrestru heb ddyddiad yn cynnwys dynodwr o oed y cerbyd. Gall gynnwys hyd at bedwar rhif ac yna tair llythyren, neu hyd at dair llythyren ac yna pedwar rhif. Os nad yw'r llythrennau yn y rhif cofrestru yn cynnwys 'I' neu 'Z', y nifer mwyaf o nodau y gallwch eu cael yn y rhif cofrestru yw chwech.
Gallai enghreifftiau gynnwys:
neu neu neu neuGwerthir cofrestriadau arddull heb ddyddiad mewn Ocsiynau DVLA yn bennaf.
Mae nifer fechan o gofrestriadau heb ddyddiad ar gael am bris penodol trwy wefan hon, mae'r rhain i gyd yn gynnwys naill ai'r llythyren 'I' neu 'Z'. Gallwch weld y rhain yn https://dvlaregistrations.dvla.gov.uk/nifixed/.
-
Sut rwyf yn prynu rhif cofrestru personol fel anrheg i rywun arall?
Pan fyddwch chi'n prynu rhif cofrestru personol, byddwn yn anfon Tystysgrif Hawl V750W atoch a fydd arnoch ei hangen i aseinio rhif cofrestru i gerbyd. Os byddwch yn prynu hwn fel anrheg, sefydlwch y cyfrif yn eich enw a chyfeiriad. Wrth brynu, gallwch ychwanegu enwebai, dylai hwn fod y person sydd neu a fydd yn geidwad cofrestredig y cerbyd y bydd yn cael ei aseinio iddo.
Unwaith y mae'r rhif cofrestru wedi ei aseinio i gerbyd, mae'r hawl yn cael ei drosglwyddo i geidwad cofrestredig y cerbyd hwnnw fel sy'n ymddangos ar y Dystysgrif Gofrestru V5CW.
-
Fyddaf yn derbyn y platiau rhif go iawn pan fyddaf yn prynu rhif cofrestru?
Nid yw DVLA yn darparu'r platiau rhif go iawn pan fyddwch chi'n ei brynu. Byddwn yn anfon tystysgrif hawl (V750W) atoch i'w defnyddio i gael y platiau rhif wedi'i wneud gan gyflenwr platiau rhifau. Gallwch ddod o hyd i'ch cyflenwr agosaf drwy ddefnyddio https://www.gov.uk/number-plate-supplier
Bydd y cyflenwr platiau rhifau cofrestredig yn sicrhau fod y platiau wedi eu gwneud i'r safon gyfreithiol gywir. Ceir rhagor o wybodaeth am blatiau rhifau yma: http://www.gov.uk/displaying-number-plates
-
Rwyf wedi prynu rhif cofrestru personol, beth y dylwn i ei wneud nesaf?
Mae'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig ag arddangos, trosglwyddo a chadw rhif cofrestru personol ar gael yn https://www.gov.uk/personalised-vehicle-registration-numbers
-
Nid wyf wedi derbyn fy Nhystysgrif Hawl (V750W) neu rydw i wedi ei cholli/ei dinistrio. Allaf gael un newydd?
Pryniannau a wneir am bris sefydlog ar dvlaregistrations.dvla.gov.ukCaniatewch 14 diwrnod i dderbyn eich V750W. Os nad yw wedi cyrraedd ar ôl 14 diwrnod, gallwch ofyn am un ddyblyg drwy eich cyfrif. Nid oes ffi am hwn.
Pryniannau a wneir mewn ocsiwnDylech ddisgwyl derbyn eich V750W o fewn 3 wythnos i'r taliad gael ei dderbyn. Os nad yw'r V750W wedi cyrraedd ar ôl 3 wythnos neu os yw wedi'i cholli/ei ddinistrio, cysylltwch â ni yma.
Os ydych eisoes wedi gwneud cais i roi'r rhif cofrestru ar gerbyd, nid yw'r dystysgrif bellach yn ddilys ac ni ellir cyhoeddi un amnewid.
-
Mae gennyf Dystysgrif Hawl (V750W), sut allaf wirio mai dyma'r dystysgrif ddilys ddiweddaraf?
Bydd angen ichi fewngofnodi neu greu cyfrif, unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, gallwch glicio ar y botwm 'gwirio dilysrwydd tystysgrif' yn ddangosfwrdd eich cyfrif. Bydd angen y rhif cofrestru a rhif y dystysgrif wrth law.
-
A allaf ganslo fy mhryniant?
Mae'r wybodaeth ganlynol dim ond yn berthnasol i bryniannau prynwyr cofrestriadau prisiau penodol a werthir trwy'r wefan hon. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod ceisiadau canslo gan fusnesau ac mewn achosion lle mae unrhyw bryniannau wedi'u prynu gyda'r bwriad o ailwerthu.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais i roi'r rhif cofrestru ar gerbyd ac yn dymuno canslo eich pryniant, rhaid ichi wneud cais o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad prynu. I wneud cais i ganslo'ch pryniant, ewch i'r dudalen ymholiadau cofrestriadau personol, a dewis yr opsiwn "Canslo prynu rhif cofrestru".
Ni dderbynnir ceisiadau i ganslo a wneir ar ôl 14 diwrnod, ond gallwch barhau i wneud cais am ad-daliad o'r ffi aseiniad o £80.00. Ein nod yw ymateb ichi o fewn 14 diwrnod i'ch cais, ac os caiff ei gymeradwyo, bydd ad-daliad yn cael ei wneud i'r cerdyn talu a ddefnyddir ar adeg ei brynu. Rydym yn cadw'r hawl i godi ffi gweinyddu canslo os bydd ceisiadau canslo gormodol neu afreolaidd.
-
Ydych chi'n ystyried cynigion am bris is am gofrestriadau sydd wedi'u hysbysebu ar y wefan hon?
Na, nid ydym yn derbyn cynigion o dan unrhyw amgylchiadau. Mae'r holl gofrestriadau prisiau penodol ar y wefan hon yn cynnwys TAW, a ffi aseinio o £80.00
-
Allaf dalu mewn rhandaliadau?
Na chewch, nid yw DVLA yn cynnig unrhyw randaliadau cyllid na thalu, rhaid gwneud pob taliad yn llawn ar yr adeg brynu.
-
A yw'n bosibl prynu rhif cofrestru sydd wedi bod ar gerbyd yn y gorffennol?
Nac ydy, mae DVLA dim ond yn gwerthu rhifau cofrestru sydd heb eu cyhoeddi neu'u gwerthu o'r blaen. Os ydy rhif cofrestru wedi bod ar gerbyd yn y gorffennol, a hyd yn oed os ydy'r cerbyd hynny wedi'i sgrapio, ni fydd y rhif cofrestru hynny ar gael i'w brynu wrth DVLA.
-
All DVLA fy helpu i gysylltu â pherchennog rhif cofrestru rwyf am ei brynu?
Ni allwn roi unrhyw wybodaeth ynglŷn â pherchennog neu leoliad cerbyd neu rif cofrestru oherwydd Deddfau Diogelu Data. Nid yw'n bosib anfon unrhyw ohebiaeth ymlaen iddynt chwaith, gan y byddai hyn yn torri Goresgyniad Deddfau Preifatrwydd.
-
Ni allaf ddod o hyd i rif cofrestru, a oes eraill ar gael?
Er bod miliynau o rifau cofrestru ar gael i'w prynu'n uniongyrchol heddiw, efallai y byddwch eisiau cofrestriad sydd ddim yn dangos yn eich canlyniadau chwilio. Os yw hyn yn wir, efallai y gallwn wneud y cofrestriad hwnnw ar gael i'w brynu. I wneud hyn:
- rhaid i'r cofrestriad fod mewn fformat dilys, gweler y cwestiwn uchod 'Pa arddull o rifau cofrestru personol rydych chi'n eu gwerthu?' i gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol arddulliau o gofrestriad.
- rhaid bod y cofrestriad erioed wedi cael ei werthu o'r blaen. Gallwch wneud defnydd o'n chwiliad gwerthiannau ocsiwn, lle gallwch chwilio am bob cofrestriad rydym eisoes wedi'i werthu drwy ein hocsiynau, gyda dyddiadau a'r prisiau a gafwyd o dan y morthwyl am bob rhif cofrestru.
- rhaid bod y cofrestriad erioed wedi cael ei gyhoeddi i gerbyd yn flaenorol. Os yw cofrestriad wedi bod ar gerbyd yn y gorffennol, ni ellir ei ddarparu i'w werthu. Gallwch ddefnyddio ein Gwasanaeth ymholiad cerbyd i weld a yw cofrestriad wedi'i aseinio i gerbyd ar hyn o bryd.
Os oes gennych gofrestriad penodol mewn golwg, neu gyfuniad o lythyrau a rhifau a ffefrir, defnyddiwch ein gwasanaeth e-bost ar-lein i gysylltu â ni os gwelwch yn dda.
-
Oes rhaid i mi aseinio rhif cofrestru i gerbyd ar unwaith?
Nac oes. Pan fyddwch yn prynu wrth DVLA, byddwch yn derbyn tystysgrif hawl V750W. Bydd hon yn ddilys am 10 mlynedd, ac os nad ydych yn aseinio'r rhif cofrestru o fewn yr amser hwn, gallwch ei adnewyddu am 10 mlynedd arall heb unrhyw ffi ychwanegol.
Nid oes ffi i ddal rhif cofrestru ar dystysgrif ddilys.
-
Ydy DVLA yn prynu rhifau cofrestru, neu gall DVLA fy nghynorthwyo i werthu fy rhif cofrestru?
Na, nid yw DVLA yn prynu rhifau cofrestru, neu'n cyfnewid o dan unrhyw amgylchiadau. Wrth werthu rhif cofrestru, efallai yr hoffech ddefnyddio un o'r Delwyr Cofrestru Personol sydd wedi'u rhestri yn https://dvlaregistrations.dvla.gov.uk/cymraeg/dealers ac sydd wedi cytuno i gydymffurfio â'r telerau ac amodau arferion masnachu DVLA.
-
Ni allaf ddod o hyd i fy rhif cofrestru yn fy nghyfrif?
Dim ond rhifau cofrestru a brynwyd yn uniongyrchol wrth DVLA gellir eu harddangos yn eich cyfrif ar-lein. Unwaith y byddwch wedi aseinio'r rhif cofrestru i gerbyd, nid yw'r cofrestriad bellach yn cael ei gadw yn eich cyfrif prynu.
-
Sut rwyf yn cwyno os ydw i'n anhapus gyda'r gwasanaeth a dderbyniwyd gan DVLA?
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein trefn gwyno, a sut i gysylltu â'n tîm cwynion yn https://www.gov.uk/government/organisations/driver-and-vehicle-licensing-agency/about/complaints-procedure.cy.
-
Beth allaf wneud yn fy nghyfrif ar-lein?
Ychwanegu rhif cofrestruBydd rhifau cofrestru a brynwyd oddi ar ein gwefan yn ymddangos yn awtomatig yn eich cyfrif ar-lein. Gallwch hefyd ychwanegu rhifau cofrestru a brynwyd yn uniongyrchol wrth ocsiwn DVLA i'ch cyfrif. Ni allwch ychwanegu rhifau cofrestru nad ydych wedi'u prynu yn uniongyrchol wrth DVLA. Ni allwch ychwanegu rhifau cofrestru sydd wedi'u haseinio, neu erioed wedi'u haseinio, i gerbyd.
Ychwanegu person a enwir (enwebai) i'r rhif cofrestru
Gallwch ychwanegu enwebai i'r rhif cofrestru i'w alluogi i gael ei gofrestru i gerbyd yn enw rhywun arall.
Adnewyddu'r hawliau i rif cofrestruMae'r hawliau i'r rhif cofrestru yn ddilys am 10 mlynedd o'r dyddiad prynu. Gallwch adnewyddu'r cyfnod hwn, yn rhad ac am ddim, os nad ydych wedi aseinio'r rhif cofrestru o hyd o fewn yr amser hwn.
Newid cyfeiriad ar gyfrifGallwch newid eich cyfeiriad post am bryniannau yn y dyfodol.
Newid cyfeiriad ar dystysgrifGallwch newid cyfeiriad y rhifau cofrestru sydd eisoes ar eich cyfrif.
Cais am Dystysgrif DdyblygGallwch wneud cais am dystysgrif hawl ddyblyg (V750W) os yw'ch un chi wedi'i cholli neu'i dinistrio. Os nad ydych wedi derbyn eich tystysgrif wreiddiol, gellir gwneud cais am un ddyblyg ar ôl 10 diwrnod o'r dyddiad prynu.
Gweld yr holl rifau cofrestru a brynwydGallwch weld yr holl rifau cofrestru yn eich cyfrif, a gweld pa rai sydd wedi'u haseinio, heb gael eu haseinio, wedi dod i ben ac sy'n barod i'w hadnewyddu. Gallwch hefyd allforio pob rhif cofrestru i ffeil .csv.
mwy o help?
Os oes arnoch angen cymorth pellach i ddod o hyd i'ch cofrestriad perffaith, neu fod gennych gwestiwn arall ynglŷn â chofrestriadau personol, gallwch gysylltu â ni yma.
Os oes gennych unrhyw ymholiad arall sy'n gysylltiedig â DVLA, ewch i www.gov.uk/contact-the-dvla