Telerau ac Amodau
Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn rheoli eich defnydd o wefan Gwerthiant Rhifau Cofrestru Personol DVLA a’ch perthynas chi â’r wefan hon. Darllenwch hwy yn ofalus gan eu bod yn effeithio ar eich hawliau a’ch ymrwymiadau dan y gyfraith. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau ac Amodau hyn, peidiwch â defnyddio’r wefan hon os gwelwch yn dda.
Eich mynediad i’r gwasanaeth
Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon dim ond at ddibenion cyfreithiol, ac mewn ffordd nad yw’n amharu ar hawliau, nac yn cyfyngu neu’n atal unrhyw drydydd parti rhag defnyddio a mwynhau’r wefan hon. Mae cyfyngiad neu ataliad o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu achosi gofid neu anghyfleustra i unrhyw un, a throsglwyddo cynnwys anweddus neu annymunol neu amharu ar lif arferol deialog o fewn y wefan hon.
Mae eich defnydd o’r Wefan hon yn rhoi hawl i’ch porwr wneud copi o’r deunyddiau a arddangosir at ddibenion storio dros dro yn unig. Drwy weld, argraffu, neu lawrlwytho unrhyw gynnwys, graffeg, ffurflen, neu ddogfen o’r wefan, dim ond trwydded gyfyngedig, heb fod yn gynhwysfawr, a roddir i chi, i’w defnyddio gennych chi yn unig ar gyfer eich defnydd personol eich hun ac nid ar gyfer ailgyhoeddi, dosbarthu, dosrannu, is-drwyddedu, gwerthu, paratoi gwaith deilliadol, neu unrhyw ddefnydd arall. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o unrhyw gynnwys, ffurflen, na dogfen mewn unrhyw ffurf nac ei hymgorffori yn rhan o unrhyw system adfer gwybodaeth, yn electronig neu’n fecanyddol, ar wahân i’ch defnydd personol chi, ac ni cheir ei defnyddio ar gyfer ailwerthu nac ailddosbarthu.
Mae defnyddio dulliau cloddio data, robotiaid neu offer casglu neu echdynnu data tebyg wedi’u gwahardd yn llwyr.
Firysau, hacio a drwgweithredoedd eraill
Ni ddylech gamddefnyddio ein gwefan trwy gyflwyno, ar bwrpas, firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sydd yn faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Ni chewch geisio cael mynediad anawdurdodedig i’n gwefan, y gweinydd lle caiff ein gwefan ei storio nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu fas data sydd yn gysylltiedig â’n gwefan. Ni ddylech ymosod ar ein safle trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.
Trwy dorri ar y ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd gan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn adrodd am unrhyw doriad o’r math i awdurdodau gorfodi’r gyfraith berthnasol trwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt.
Hawlfraint ac atgynhyrchu
Mae’r deunydd a welir ar y wefan hon yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y Goron am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Ni chewch addasu na chymhwyso’r Wybodaeth nac unrhyw ran ohoni, oni nodir hynny yn benodol.
Mae’r enwau, delweddau a logos sydd yn nodi DVLA yn nodau perchnogol DVLA. Ni chewch gopïo ein logos ni a /neu unrhyw logos trydydd parti y ceir mynediad iddynt trwy'r safle hwn heb ganiatâd ymlaen llaw oddi wrth berchennog perthnasol yr hawlfraint
Ein defnydd o'r Wefan hon
Bydd gan staff awdurdodedig DVLA fynediad i’r wybodaeth hon er mwyn ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid a darparu cefnogaeth dechnegol.
Mae DVLA yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gwybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, ni fedr DVLA dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am y cywirdeb na’r cynnwys. Mae ymwelwyr sy’n dibynnu ar y wybodaeth yn gwneud hynny ar eu risg eu hunain.
Dylai’r gwasanaeth bod ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos ac eithrio am gyfnodau o gynnal a chadw cynlluniedig. Ni fedrwn warantu bod y gwasanaeth yn rhydd o ddiffygion. Os bydd diffyg yn digwydd byddwn yn ymdrechu i gywiro’r diffyg cyn gynted ag y medrwn yn rhesymol.
Sut ydyn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth ?
Rydym yn casglu gwybodaeth berthnasol oddi wrth ymwelwyr â’r wefan hon: adborth (trwy ymwelwyr yn cwblhau holiaduron adborth neu ein e-bostio) a gwybodaeth ynghylch defnydd o’r safle, oddi ar cwci a thagio tudalen. Yn ogystal â hyn rydym yn storio cyfeiriadau e-bost a ddarperir fel rhan o’r gwasanaethau hyn er mwyn cadarnhau’r trafodyn ac/neu i’ch hysbysebu pan fydd rhif cofrestru yn dod ar gael yn y dyfodol.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei ddarparu ar ein cyfer i yrru ymlaen unrhyw fusnes trwyddedu gyrwyr a cherbydau. Efallai byddwn yn gwirio’r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni i weld sut mae’n cymharu â gwybodaeth sydd gennym eisoes (er enghraifft, fe allwn ofyn i chi am eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad fel y medrwn ddod o hyd i’ch cofnod).
Diogelwch
Mae DVLA yn ystyried diogelwch yn ddifrifol iawn. Mae DVLA yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu’r data personol sydd ar gael trwy’r gwasanaethau hyn yn unol â deddfwriaeth diogelu Data.
Cedwir data mewn amgylchedd diogel sydd yn bodloni safonau diogelwch y diwydiant a’r Llywodraeth.
Mae nifer o nodweddion diogelwch mewn lle i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ar y daith o’ch cyfrifiadur i’r gwasanaeth. Fodd bynnag, nid yw trosglwyddo data dros y rhyngrwyd yn hollol ddiogel yn gyffredinol, ac ni fedrwn warantu diogelwch eich data.
Monitro defnydd o’r gwasanaeth
Bydd DVLA yn cadw trywydd archwilio ymdrechion llwyddiannus ac aflwyddiannus i gael mynediad i gofnodion gwybodaeth am eich cerbyd ac yn monitro’r defnydd o’r gwasanaeth. Gwneir hyn er mwyn atal a dod o hyd i fynediad anawdurdodedig.
Hyperddolenni
Nid yw DVLA yn gyfrifol am gynnwys na natur ddibynadwy’r gwefannau cysylltiedig a nid ydym o reidrwydd yn ategu’r farn a gyflwynir arnynt. Ni ddylid derbyn rhestriadau fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni fedrwn warantu bod y cysylltiadau hyn yn gweithio trwy gydol yr amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd tudalennau cysylltiedig.
Cardiau Talu
Rydym yn derbyn cardiau debyd a chredyd ar gyfer talu ar y wefan hon. Bydd gwybodaeth ar gerdyn yn cael ei drosglwyddo yn unol â’n datganiad diogelwch.
Gwybodaeth ynghylch Defnydd o’r Safle
Mae ffeiliau log yn ein galluogi i gofnodi defnydd ymwelwr o’r wefan hon, a byddwn yn ei ddefnyddio i wneud gwelliannau i weddlun y wefan a’r wybodaeth arni, ar sail y ffordd mae ymwelwyr yn chwilio’r ffordd o’i chwmpas. Nid yw ffeiliau log yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi.
Cwcis
Cwcis yw darnau o ddata a grëir yn aml pan fyddwch yn ymweld â gwefan, a chânt eu storio yng nghyfeiriadur cwcis eich cyfrifiadur. Caiff cwcis eu creu pan fyddwch yn ymweld â dvlaregistrations.dvla.gov.uk.
Mae ein cwcis yn storio rhif ar hap a gwybodaeth arall megis dyddiad ar eich cyfrifiadur i’n helpu ni i gyfri pa mor aml y bydd defnyddwyr yn dychwelyd i’n gwefan.
Nid yw’r cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi, ac ni cheir eu defnyddio i nodi defnyddiwr unigol.
Gallwch ffurfweddu eich porwr i wrthod cwcis. Nodwch, efallai na fyddwch yn gallu cyrchu nodweddion penodol o'r wefan hon neu eu defnyddio os gwnewch hyn.
Pan
fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym eisiau iddynt fod yn hawdd, yn
ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Pan gaiff gwasanaethau eu cynnig ar y
rhyngrwyd, mae hyn weithiau’n golygu rhoi symiau bach o
wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft eich cyfrifiadur neu ffôn
symudol. Mae’r rhain yn cynnwys ffeiliau bach o’r enw
cwcis. Ni cheir eu defnyddio i’ch adnabod chi yn bersonol.
Defnyddir
y darnau hyn o wybodaeth i wella gwasanaethau i chi drwy, er
enghraifft:
-
alluogi
gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel nad oes rhaid i chi nodi’r
un wybodaeth nifer o weithiau yn ystod un dasg
cydnabod
y gallech chi fod wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair yn barod,
fel nad oes angen i chi eu rhoi ar gyfer pob tudalen we
mesur
faint o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, fel y gellir eu
gwneud yn haws i’w defnyddio a gwneud yn siŵr bod digon o
gapasiti i sicrhau eu bod yn gyflym
Ein defnydd ni o gwcis
Y
cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan Cofrestriadau Personol:
Cwcis
sy’n cael eu storio gan ddadansoddeg Google er mwyn darparu
dadansoddiadau o’r wefan i DVLA.
Manylion
Adnabod sesiwn bresennol a ddefnyddir i gysylltu sesiwn bresennol y
defnyddiwr â gweithrediadau a wneir ar y wefan at ddibenion
swyddogaethol ac ystadegol (gan gynnwys dychwelyd o’r broses
brynu i gadarnhau gwerthiant).
Manylion Adnabod sesiwn
flaenorol a ddefnyddir i bennu pryd ymwelodd rhywun diwethaf (os yw’n
bresennol) at ddibenion ystadegol.
Dyddiad/amser ymweliad
diwethaf a ddefnyddir i gofnodi dyddiad ac amser ymweliad diwethaf
rhywun at ddibenion ystadegol.
Defnyddir yr ID rhestr ddymuniadau (Wishlist ID) i storio dolen i gronfeydd data o gofrestriadau ar restr ddymuniadau ar gyfer cadw cofrestriadau cadwedig y defnyddiwr neu pan fydd defnyddiwr yn manteisio ar ein cyfleuster rhestr ddymuniadau sy'n cadw cof am rai cofrestriadau a nodwyd gan y defnyddiwr.
Tagio tudalennau
Rydym yn defnyddio JavaScript i gydgasglu a dadansoddi patrymau defnydd cwsmeriaid ar barth dvlaregistrations.dvla.gov.uk. Mae hyn yn rhoi data i ni am eich defnyddioldeb a’ch ymddygiad. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud newidiadau i osodiad y wefan a’r wybodaeth ynddi. Nid yw hyn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol nac adnabyddadwy am ddefnyddwyr.
Rydym weithiau yn tagio tudalennau ar y wefan hon yn ystod ymgyrchoedd hyrwyddo. Mae’r tagiau hyn yn ein galluogi ni i ddysgu pa hysbysiadau sy’n llwyddiannus yn denu ein defnyddwyr i’n gwefan(nau). Gyda’r dechnoleg hon, mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a’i rhannu yn ddienw ac ni ellir ei hadnabod yn bersonol.
Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n cysylltu â gwefan arall?
Mae gan dvlaregistrations.dvla.gov.uk ddolenni i wefannau eraill, gan gynnwys adrannau’r llywodraeth a sefydliadau eraill. Dylech bob amser fod yn ymwybodol wrth i chi symud i wefan arall a darllen telerau ac amodau unrhyw wefan(nau) arall sy’n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych wedi’i rhoi i ni, i unrhyw wefan arall.
Beth sy’n digwydd pan rwyf yn mynd ar wefan dvlaregistrations.dvla.gov.uk drwy wefan arall?
Pan gewch eich cyfeirio at wefan dvlaregistrations.dvla.gov.uk o wefan arall (boed yn wefan trydydd parti neu’n wefan llywodraeth), efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch chi gan y wefan(nau) arall. Dylech ddarllen y polisïau preifatrwydd sy’n berthnasol i wefannau o’r fath gan y bydd y rhain yn rheoli’r defnydd o unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu wrth ddefnyddio gwefannau o’r fath ac sy’n cael ei rhannu â dvlaregistrations.dvla.gov.uk.
Diogelwch
Wrth ddefnyddio ‘fy nghyfrif’ ac adrannau prynu o’r wefan, mae’r holl wybodaeth yr ydych yn ei hanfon a’i derbyn yn cael ei throsglwyddo drwy gysylltiad Haenen Socedi Diogel (HSD). Mae HSD yn creu cysylltiad diogel rhwng eich porwr a’n gweinydd. Rydym yn defnyddio HSD gydag amgryptiad 128-bit a dderbynnir yn eang fel safon y diwydiant.
Mae HSD yn amgryptio eich gwybodaeth bersonol cyn ei bod yn gadael eich cyfrifiadur ac mae’n gwarantu na chaiff ei newid rhwng eich cyfrifiadur chi a’n gweinydd ni, ac na all defnyddwyr heb awdurdod ei darllen.
Ymwadiad
Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb ynghylch colled neu ddifrod a ddaw i ran defnyddwyr y gwasanaeth hwn, boed hynny yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol neu ganlyniadol, p’un ai iddo gael ei achosi gan gamwedd, tor-cytundeb neu fel arall, mewn cysylltiad â’n safle, ei defnydd, yr anallu i’w defnyddio, neu ganlyniadau defnyddio’n safle, unrhyw wefannau sydd yn gysylltiedig ag unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd arni.
Mae hyn yn cynnwys colli:
-
incwm
neu refeniw
busnes
elw
neu gontractau
arbediadau
disgwyliedig
data
ewyllys
da
eiddo
diriaethol
gwastraff
amser swyddfa neu reolwyr
Mae gwefannau neu dudalennau gwe y mae’r wefan hon yn gysylltiedig â hwy er gwybodaeth yn unig. Nid yw DVLA yn rheoli, ategu, noddi nac yn cymeradwyo cynnwys ar y mathau hyn o wefannau neu dudalennau, oni nodir hynny yn benodol. Nid yw DVLA yn derbyn cyfrifoldeb na rhwymedigaeth ynghylch unrhyw golledion neu gosbau a ddaw i’ch rhan o ganlyniad i’ch defnydd o unrhyw ddolenni neu ddibyniaeth ar gynnwys unrhyw wefan neu dudalennau gwe y mae’r wefan hon yn gysylltiedig â hwy.
Ni fedrwch ffurfio na chysylltu’r wefan hon gydag unrhyw wefan arall heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan DVLA.
Diogelu rhag firysau
Mae DVLA yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd prawf ar bob cam o’r cynhyrchiad. Fodd bynnag, rhaid i chi drefnu eich rhagofalon eich hun i sicrhau bod y broses rydych yn ei defnyddio i gael mynediad i’r wefan hon ddim yn eich gadael yn agored i’r risg o firysau, codau cyfrifiadur maleisus neu ffurfiau eraill o ymyriad a all niweidio eich system gyfrifiadurol eich hun.
Ni fedr DVLA dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu niwed i’ch data na’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth i chi ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
Newidiadau
Ceidw DVLA yr hawl, yn ôl ei ddisgresiwn, i wneud newidiadau i unrhyw ran o’r wefan hon, yr wybodaeth neu’r telerau hyn. Os bydd DVLA yn newid y telerau hyn, bydd DVLA yn cyhoeddi manylion y newidiadau ar y wefan. Bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym wrth iddynt gael eu postio ar y wefan hon.
Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio pris cofrestriadau neu i roi’r gorau i’w gwerthu heb ragrybudd.
Newidiadau i’r Telerau ac Amodau
Fe allwn ddiweddaru’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd. Os ydych yn dal i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl y dyddiad y daw’r newidiadau hyn i rym, mae eich defnydd o’r wefan yn dangos eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau ac Amodau newydd.
Toradwyedd
Os delir bod unrhyw un o’r Telerau ac Amodau hyn yn annilys, anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd gweddill y Telerau ac Amodau, er hynny, yn parhau i fod mewn grym.
Digwyddiadau y tu hwnt i reolaeth DVLA
Nid yw DVLA yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn lle mae methiant o’r fath yn ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
Os yw DVLA yn ildio unrhyw hawl sydd ar gael iddo dan y Telerau ac Amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y caiff yr hawliau hynny eu hildio yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall.
Cyfraith lywodraethol
Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu rheoli gan a’u dehongli yn unol â deddfau Lloegr a Chymru. Bydd unrhyw anghydfod sydd yn codi dan y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Lloegr a Chymru.
Diweddarwyd y Telerau ac Amodau hyn diwethaf ar 23 Mai 2018. © Hawlfraint
Adborth
Rydym yn croesawu eich adborth.
Os byddwch yn anfon e-bost atom yn ceisio cyngor neu wybodaeth nad ydym mewn sefyllfa i’w rhoi, efallai y byddwn yn anfon eich e-bost ymlaen at adran fwy priodol o fewn y llywodraeth i gael ymateb. Os byddwn yn gwneud hyn, byddwn yn anfon e-bost atoch yn rhoi gwybod i chi am ein gweithredoedd.