Datganiad Hygyrchedd Gwefan
Rheolir y wefan hon gan Connect Internet Solutions ar ran yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrin
- lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w deall. Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cael asesiad hygyrchedd ar hyn o bryd a fydd yn digwydd ar 14 Medi 2020. Bydd y gwerthusiad a’r adroddiad yn cael eu hadolygu a chaiff y datganiad hwn ei ddiweddaru â’r mesur mewn perthynas â safonau WCAG 2.1 AA yn unol â hynny.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordiad sain neu braille, e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â’n tîm gwerthu rhifau cofrestru personol drwy ein gwasanaeth e-bost ar-lein.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â'r Rheolwr Gwasanaeth Cerbydau Anthony.bamford@dvla.gov.uk
Gweithdrefn gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae DVLA wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Anhysbys – aros am asesiad.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Anhysbys – aros am asesiad.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Anhysbys – aros am asesiad.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFau a dogfennau eraill
Darperir y wybodaeth hon yn ein polisi dogfennau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio o fodloni’r rheoliadau hygyrchedd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn gweithio i wella hygyrchedd ei holl wasanaethau. Diweddarir ein gwasanaethau mwy newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau Hygyrchedd yn ystod 2020 i yn gynnar yn 2021. Adolygir ein gwasanaethau hŷn ar hyn o bryd gyda’r nod i’w disodli gyda gwasanaethau mwy hygyrch syml yn ystod y 2 flynedd nesaf.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 18 Medi. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 18 Medi 2020.